Croeso i wefan newydd Yr Herald Cymraeg. Mae'r safle'n gydymaith clos i'r atodiad sy'n ymddangos bob dydd Mercher gyda'r Daily Post. Ond wrth gwrs, ar wefan fel hon gallwn gynnig rhywbeth gwahanol i'r gair printiedig, a gallwch fentro hefyd y bydd datblygiadau newydd yn ymddangos yn rheolaidd. Mwynhewch eich ymweliad, a gadewch inni wybod eich barn amdano.
DWI’N beio Bethan Gwanas. Wrth ddarllen ei cholofn, daeth yr hen awydd i fyw dan ganfas yn ôl i mi. Roedden ni wedi bwriadu gwersylla am wythnos yn Llanrwst, ond gyda tywydd mor echrydus, a phabell yn y Steddfod wedi bod yn hen ddigon, roedden ni’n brysur yn chwilio am Gynllun B. Tan i mi ddarllen erthygl Gwanas, a chael y syniad hurt fod y tywydd yn gwella. more
BYDD Côr ysgol Glanaethwy yn ymddangos hefo Russell Watson eto nos Sadwrn nesa. Ond ni fydd y tenor yn beirniadu’r côr y tro hwn ond yn cyd-ganu gyda hwy mewn cyngerdd awyr agored yn yr Amwythig. more
FE gefais wahoddiad diddorol a chymharol annisgwyl yr wythnos diwethaf. A dweud y gwir roedd yn wahoddiad munud ola a bu rhaid ymateb yn sydyn i’r gwahoddiad os oeddwn am fynd. Diwrnod o rybudd gefais – “a hoffwn i ddod fyny i Gaeredin i weld perfformiad gan y grwp Kerieva yn y “Byd Enwog “ Speigltent”? Rwan roedd y syniad o gael trip i Gaeredin yn rhy dda i’w wrthod a munud sicrheais fod modd cyrraedd mewn pryd ar y trên (doedd hedfan ddim yn gwneud synnwyr economaidd) dyma dderbyn y gwahoddiad gyda balchder a brwdfrydedd. more